Quantcast
Channel: Hacio’r Iaith – Hacio'r Iaith
Viewing all articles
Browse latest Browse all 22

Hacio'r Iaith 2013 – manylion pwysig i bobl sy'n dod

$
0
0

Dw i newydd anfon y manylion canlynol i bawb sy’n dod i Hacio’r Iaith 2013 dydd Sadwrn. Dw i wedi copïo’r testun yma rhag ofn bod rhywun wedi methu’r e-bost.

O ran cofrestru, mae ychydig o lefydd ar gael ar hyn o bryd ond dim llawer.

Helo

Diolch am gofrestru ar gyfer Hacio’r Iaith 2013. Ers i ni sefydlu’r digwyddiad a’r blog yn 2010 mae’r gymuned wedi tyfu gyda phobl o feysydd gwahanol ac wedi arwain at brosiectau diddorol iawn. Ac rydyn ni’n methu aros i ddod at ein gilydd er mwyn joio defnydd o’r Gymraeg a thechnoleg yn y bedwaredd Hacio’r Iaith.

Manylion y digwyddiad
Hacio’r Iaith 2013
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU
Dydd Sadwrn 19eg mis Ionawr 2013
9:30 – 18:00
Gallet ti parcio ym maes parcio’r Llyfrgell (am ddim ar ddydd Sadwrn).

Syniadau am sesiynau
Cer i weld syniadau gan gyfrannwyr eraill ar y dudalen wici Hacio’r Iaith 2013:
http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2013#Sesiynau_.27Pendant.27
Plis ychwanegu unrhyw syniadau rwyt ti eisiau eu trafod. Gall sesiwn fod yn gyflwyniad, sgwrs, trafodaeth, gweithdy, demo, beth bynnag rydych chi eisiau, bach neu fawr. Nid cynhadledd i ddod i wrando’n unig yw Hacio’r Iaith ond i gymryd rhan. Mae pawb yn yr un sefyllfa fel cyd-drefnwyr ac rydyn ni i gyd yn gyfeillgar!

Anghenion bwyd
Os oes gen ti unrhyw anghenion bwyd arbennig yna plis gad i ni wybod. Bydd bwyd llysieuol ar gael ond gallwn addasu i alergeddau / deiet figan ayyb.

Cofrestru a dad-gofrestru(!)
Os oes gen ti ffrindiau sydd eisiau cofrestru mae lefydd yn mynd ar sail ‘cyntaf i’r felin’. Unwaith does dim llefydd mae rhestr aros rhag ofn bydd pobl yn tynnu allan. Os wyt ti wedi cofrestru ac yn methu dod bellach, plis dweud wrthon ni achos mae nifer cyfyngedig o lefydd ac bydd rhywun arall eisiau cofrestru yn dy le di. Diolch.

Hacathon dydd Gwener
Ar ddydd Gwener 18fed cyn Hacio’r Iaith bydd y Llyfrgell Gen yn cynnal Hacathon (sydd yn wahanol i Hacio’r Iaith!) ar eu casgliadau o bapurau newydd sydd wedi eu digido. Bydd hwn yn gyfle i gael mynediad at ddeunydd cyn iddo gael ei lansio fis Mawrth ac i bobol greadigol gydweithio gyda rhaglennwyr i wneud defnydd o’r adnodd anhygoel newydd yma. Manylion a chofrestru yma: http://hacathon.eventbrite.co.uk/

Swper ar nos Wener
Mae swper cyri ym mwyty Shilam wastad yn boblogaidd iawn. Plis gad i ni wybod os wyt ti am ddod er mwyn i ni archebu lle i ti. Os wyt ti eisiau cofrestru am y swper, sgwenna dy enw ar y wici:
http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2013#Swper_Nos_Wener

Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris a chriw Hacio’r Iaith

The post Hacio'r Iaith 2013 – manylion pwysig i bobl sy'n dod appeared first on Hacio'r Iaith.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 22